Os oes gennych unrhyw gwestiynau yna cysylltwch â'n hymgynghorwyr Pentir Talent Solutions :
Mike Phillips ar 0208 810 7874 neu 07830 313915
e-bost mike.phillips@pentir.com
Tom Atkins ar 07879 435232 neu 0208-869-8011
e-bost tom.atkins@pentir.com
Cyfarwyddwr – Cymru, Iechyd Anifeiliaid
Hyd at £70,000 (rhif cyfeirnod AH3278 )
Ynglyn â'r rôl
Rydym yn cyflogi tua 1600 o bobl mewn lleoliadau ledled Prydain Fawr. Mae'r dosbarthiad daearyddol hwn yn golygu y gallwn ymateb yn gyflym i faterion lle bynnag y byddant yn digwydd ac rydym yn cael gwybodaeth bwysig am y gymuned ffermio leol a'u harferion. Mae ychydig dros draean o'n pobl yn gweithio yn y maes ac mae hanner y rheini yn filfeddygon cymwysedig. Golyga hyn ein bod yn meddu ar wybodaeth, profiad ac arbenigedd helaeth ac unigryw.
Rydym wrthi'n rhoi rhaglen ddiwygio fawr ar waith, yn seiliedig ar ddatblygu systemau gwybodaeth newydd, er mwyn cyflawni newid sylweddol yn y modd y darparwn wasanaethau. Mae hwn yn gyfnod heriol a chyffrous sy'n cynnig prosiectau diddorol i'r ymgeiswyr llwyddiannus eu cyflawni ac ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad ymhellach.
Sut i wneud cais
I wneud cais, anfonwch CV cyfredol ynghyd â datganiad ategol. Dylai'r datganiad ategol hwn amlinellu sut rydych yn bodloni'r pwyntiau a wneir ym manyleb y person.
I ymgeiswyr a wahoddir i gyfweliad, caiff yr ymatebion hyn eu harchwilio ymhellach ynghyd ag elfennau eraill manyleb y person.
Anfonwch eich cais wedi'i gwblhau ynghyd ag ymateb i adran cyfle cyfartal y ffurflen gais i:
mike.phillips@pentir.com
gan nodi'r rhif cyfeirnod AH/3278
Y Broses
Byddwn yn trin pob ymholiad, ffurfiol ac anffurfiol, yn gyfrinachol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5ed Hydref 2009
Caiff pob cais a dderbynnir ei adolygu. Caiff y rhai sy'n bodloni'r fanyleb agosaf eu gwahodd i Gyfweliad cyntaf gyda Pentir Talent Solutions. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer y cyfle i gwrdd â staff allweddol Iechyd Anifeiliaid cyn y cyfweliad terfynol. Caiff y darpar ymgeiswyr wybod am ddyddiadau'r cyfweliad cyn gynted a chânt eu cadarnhau.Manylion rôls
Llenwch y ffurflen isod er mwyn llwytho manylion rôl Cyfarwyddwr - Cymru i lawr.
Mae'r meysydd gofynnol mewn llythrennau trwm.
