Delweddau gan Iechyd Anifeiliaid

Anifeiliaid: cliciwch ar y ddelwedd i ddangos rhagor

Cyfarwyddwr – Cymru, Iechyd Anifeiliaid
Hyd at £70,000 (rhif cyfeirnod AH3278 )
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5ed Hydref 2009

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yna cysylltwch â'n hymgynghorwyr Pentir Talent Solutions :

Mike Phillips ar 0208 810 7874 neu 07830 313915
e-bost mike.phillips@pentir.com 

Tom Atkins ar 07879 435232 neu 0208-869-8011
e-bost tom.atkins@pentir.com

Croeso

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â'n sefydliad.  Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn ddiddorol ac yn fuddiol i chi. 

Mae Iechyd Anifeiliaid yn un o Asiantaethau Gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).  Rydym yn gwneud gwaith ledled Prydain Fawr ar ran Defra, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth yr Alban a'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Rydym yn bennaf cyfrifol am sicrhau bod anifeiliaid fferm ym Mhrydain Fawr yn iach, yn rhydd o glefyd ac yn cael gofal da.  Un o'n rolau allweddol yw gweithredu polisïau'r llywodraeth â'r nod o atal neu reoli achosion o glefydau anifeiliaid difrifol, ac o wneud hyn rydym yn cefnogi'r diwydiant ffermio, yn diogelu lles anifeiliaid fferm ac yn diogelu iechyd y cyhoedd rhag clefydau a gludir gan anifeiliaid.  Yng Nghymru a Lloegr rydym yn gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy sicrhau y caiff hylendid llaeth a safonau cynhyrchu wyau eu cyflawni.  Rydym hefyd yn rheoleiddio'r fasnach mewn rhywogaethau mewn perygl.

Sefydlwyd Iechyd Anifeiliaid ym mis Ebrill 2007 drwy gyfuno pedwar corff darparu cysylltiedig.  Ers ei sefydlu, mae'r sefydliad wedi mynd i'r afael ag achosion cydgyfredol o glwy'r traed a'r genau, ffliw adar a'r tafod glas.

 

 

^ Brig y dudalen